[00:00.000] 作词 : Traditional [00:01.000] 作曲 : Traditional [00:24.36] Bûm yn dy garu lawer gwaith [00:30.46] Do lawer awr mewn mwynder maith [00:37.13] Bûm yn dy gusanu Lisa gêl [00:43.38] Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl. [01:05.61] Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd [01:11.70] Tydi yw'r lanaf yn y byd [01:18.07] Tydi sy'n peri poen a chri [01:24.29] A thi sy'n dwyn fy mywyd i. [01:42.82] Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd [01:49.43] Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd [01:55.87] Wrth glywed sŵn yr adar mân [02:02.14] Daw hiraeth mawr am Lisa Lân. [02:43.19] Lisa, a ddoi di i'm danfon i [02:49.58] I roi fy nghorff mewn daear ddu? [02:55.70] Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind [03:02.14] Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd. [03:15.70] Hiraeth mawr am Lisa Lân. [03:21.78] Hiraeth mawr am Lisa Lân.